Cydlynu rhaglenni sy'n cynnwys nifer o asiantaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chydlynu a rheoli rhaglenni sy'n cynnwys mewnbwn gan nifer o asiantaethau a chydweithrediad rhyngddynt.
Mae dwy elfen
1 Cytuno ar gynlluniau gweithredu i gyrraedd nodau y cytunwyd arnynt
2 Cydlynu gwaith cydweithwyr yn eich asiantaeth eich hun ac o fewn asiantaethau eraill
Grŵp targed
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rhai y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys rheoli a chydlynu prosiectau a rhaglenni sy'n cynnwys mewnbwn gan nifer o asiantaethau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cytuno ar gynlluniau gweithredu i gyrraedd nodau y cytunwyd arnynt
P1. gwirio bod cynlluniau'n gyson â'r amcanion y cytunwyd arnynt
P2. cydbwyso syniadau newydd yn erbyn atebion a brofwyd i leihau troseddu/aildroseddu
P3. nodi risgiau sy'n gysylltiedig â'r rhaglen a chydbwyso'r rhain yn erbyn y canlyniadau a ddymunir
P4. ennyn cefnogaeth cydweithwyr allweddol yn eich asiantaeth eich hun ac asiantaethau perthnasol eraill
P5. sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn deall nodau'r rhaglen ac yn rhannu pwrpas cyffredin
P6. ystyried anghenion hanfodol, a throi targedau’n gamau gweithredu ymarferol, effeithlon ac effeithiol
P7. nodi a chyfiawnhau'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt
P8. sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn deall yr agweddau hanfodol ar weithredu'r rhaglen a'r trefniadau ar gyfer delio â hapddigwyddiadau
P9. creu cynllun sy'n hyblyg i ddiwallu anghenion gofynnol ac sy’n ategu meysydd gwaith cysylltiedig
P10. datblygu ac aseinio amcanion i bobl ynghyd â'r adnoddau cysylltiedig
P11. blaenoriaethu amcanion i ddiwallu anghenion a chynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
P12. gosod amcanion CAMPUS i chi'ch hun ac eraill
P13. cydbwyso agendâu a magu consensws ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan
Cydlynu gwaith cydweithwyr yn eich asiantaeth eich hun ac o fewn asiantaethau eraill
P14. darparu'r lefel ofynnol o gymorth i alluogi cydweithwyr yn eich asiantaeth chi ac asiantaethau eraill i berfformio'n effeithlon ac yn effeithiol
P15. gwneud argymhellion sy'n nodi arfer da a meysydd i'w gwella
P16. rhoi gwybod i bawb sy'n gysylltiedig am faterion allweddol a chanlyniadau rhoi'r rhaglen ar waith, o fewn amserlenni penodol
P17. monitro a rheoli'r rhaglen er mwyn iddi gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, a hynny mewn pryd ac o fewn y gyllideb
P18. cydnabod newidiadau mewn amgylchiadau ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
P19. monitro a rheoli eich cynllun er mwyn iddo gyflawni ei amcanion cyffredinol
P20. monitro ansawdd y gwaith a'r cynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau priodol, yn ôl yr angen
P21. dod o hyd i ffyrdd ymarferol a chyraeddadwy o oresgyn rhwystrau
P22. cadw rhoi gwybod i’r bobl berthnasol am gynlluniau a datblygiadau
P23. cyflwyno gwybodaeth yn gryno ac yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r rhaglenni rydych chi'n cymryd rhan ynddynt, a'u heffaith ar y gwaith sy'n cael ei wneud
K2. rôl eich asiantaeth a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu
K3. rôl yr asiantaethau y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu
K4. partneriaid gwirioneddol a phosibl, a'u strategaethau a'u cynlluniau
K5. egwyddorion a dulliau cynllunio tymor byr i dymor canolig
K6. pwysigrwydd creadigrwydd ac arloesedd mewn cynllunio gweithredol
K7. sut i ddatblygu ac aseinio amcanion CAMPUS (Cyrraeddadwy,
Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol)
K8. Sut i ddadansoddi a rheoli risg
K9. sut i ddatblygu a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau
K10 egwyddorion a dulliau dirprwyo
K11. sut i ddefnyddio adnoddau'n effeithiol i gyflawni amcanion
K12. sut i ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill
K13. sut i fonitro a rheoli cynlluniau gweithredol i gyflawni eu hamcanion
K14. rolau a chyfrifoldebau allweddol rheolwr rhaglen
K15. egwyddorion, prosesau, offer a thechnegau ar gyfer rheoli rhaglenni
K16. sut i reoli, cymell, cynllunio, monitro ac asesu pobl
K17. sut i reoli newid o fewn rhaglenni
K18. amcanion allweddol y cytunwyd arnynt a chwmpas y rhaglen a'r adnoddau sydd ar gael
K19. cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, a'u hanghenion a'u disgwyliadau
K20. prosesau ar gyfer ymgynghori
K21. gweithdrefnau yn eich sefydliad ar gyfer rheoli cyllid
K22. ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i fonitro a gwerthuso cynlluniau
K23. gweithdrefnau ar gyfer adrodd a gwneud argymhellion